Roedd Porth Stamford ar un cyfnod yn dollborth.
Casglwyd y tollau cyntaf yn Sir y Fflint ar ôl y Ddeddf Tyrpeg cyntaf ym 1757. Gosodwyd tolldai i denantiaid am ffi flynyddol, a nhw oedd yn gosod y ffioedd i ddefnyddio'i tollbyrth. Roedd tollau nodweddiadol yn 2d ar gyfer ceffyl neu 10d ar gyfer ceffyl yn tynnu cart.
O'r fan hon mae golygfeydd gwych yn edrych dros Aber Afon Dyfrdwy.
Mae Melin Wynt Groes Onnen yn dyddio'n ôl i 1805 ac fe'i hadeiladwyd gan y teulu Sankey. Daeth pobl leol â'u ŷd yma hyd 1894, pan gaewyd y felin. Mae'n debyg bod mynachod Dinas Basing wedi adeiladu'r felin wynt gyntaf yma gan mai dyma'r lleoliad gorau yn y dyffryn.


