Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Torri Glo â Llaw

Torri Glo â Llaw
Gwrando

Am tua 70 mlynedd roedd glo yn cael ei dorri â llaw gan ddefnyddio'r system colofn a thalcen gyda'r dynion yn gweithio mewn timau o bump neu chwech, os oeddech yn cynnwys y ferlen!

Roedd prentisiaid ifanc yn gweithio fel gyrwyr merlod am tua 2 flynedd, ac yna'n llwythwyr, gan lenwi'r tybiau o lo â llaw. Ar ôl 6 neu 7 mlynedd arall roedd llwythwyr yn cael eu dyrchafu'n lowyr a gweithio mewn parau ar y ffas, gan dorri'r glo mewn stâl 12'. Roedd gweithio mor agos at ei gilydd a gofalu am ei gilydd yn creu bondiau cryf ac yn aml roedd y dynion yn gwybod yn hyn y roedd un arall yn feddwl heb yr angen am eiriau.

Daeth gwelliannau mawr i'r glowyr a'u gwragedd pan osodwyd pwll baddonau ym 1957. Doedd dim rhaid i lowyr weithio mewn dillad gwlyb drwy'r dydd os oedden yn gwlychu wrth gerdded i'w gwaith ac nid oedd rhaid i'r gwragedd wario oriau yn llenwi tybiau tun gyda dŵr poeth pan roedd y glowyr yn cyrraedd gartref. Roedd hon yn waith caled os oedd gennych un dyn i lawr y pwll, ond yn hunllef os byddai 3 neu 4 mab a gŵr yn gweithio yno, o bosibl ar wahanol sifftiau.