Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Dulliau modern

Dulliau modern
Gwrando

Newidiodd y galw am lo yn ystod y 1960au fel y dechreuodd drenau redeg ar diesel a dechreuodd Iwerddon brynu glo o Wlad Pwyl.

Roedd gorsafoedd pŵer angen glo mân yn hytrach na lympiau mawr ac felly cyflwynwyd dull "longwall". Roedd y talcenni glo yn 100 neu 200 llath o hyd ac ar ôl i bob haen gael ei gymryd i ffwrdd, roedd y cynhalbyst yn cael eu gollwng gan ganiatau i'r to gwympo.

Cyrhaeddodd cynhyrchu i'w uchafbwynt yn 1981 pan gloddiwyd 471,659 tunnell o lo. Roedd mecaneiddio'r holl broses yn golygu bod angen llai o ddynion ac oherwydd cyflymder y cynhyrchu roedd rhai yn poeni na fyddai glo ar ôl i'w weithio.