
Nid yn unig oedd glowyr oedd yn gweithio yn y pwll, roedd sawl sgil arall eu hangen uwchben ac o dan y ddaear.
Cychwynnodd llawer o ddynion eu hyfforddiant o dan y ddaear ym Mhwll Glo Gresffordd, gyda rhai'n astudio yn y Coleg Technegol yn Wrecsam, yn dibynnu ar eu dewis yrfa.
Dynion tân oedd yn gyfrifol am ddiogelwch ar y ffas lo, gan greu'r ffrwydradau yn barod ar gyfer y dynion i lwytho. Crëwyd tyllau yn y graig ac yna ei llenwi â phowdwr neu ffrwydron ac roedd yn bwysig i wirio nad oedd unrhyw nwy yn yr awyr cyn tanio.
Ffitwyr oedd yn gyfrifol am gadw'r holl beiriannau yn gweithio'n iawn, a'r trydanwyr oedd yn gyfrifol am osod a chynnal a chadw holl offer trydanol.
Roedd gan y dyn lamp rôl bwysig, gan wneud yn siŵr bod y lampau olew wedi eu llenwi i gyd, atgyweirio lampau a gwirio hunan-achubwyr a allai amddiffyn y dynion rhag gwenwyn carbon monocsid am tuag awr cyn i ddamwain enbyd ddigwydd.