
Skylark 
Little tern
Mae ymfudwyr y Gwanwyn yn dechrau cyrraedd o ganol mis Mawrth ac yn cynnwys teloriaid, siglen a thinwen y garn, ma'er rhain yn mudo o bellteroedd maith Affrica.
Edrychwch am sgiwennod, pedrynod a huganod allan ar y môr, tua'r gogledd ar eu tiroedd bridio. Bydd ehedydd gwrywaidd yn datgan eu tiriogaeth gyda chân hedfan hardd, tra'n agosooch gellir gweld môr-wenoliaid bach yn nythu yn brysur.
Ar ddiwedd yr haf mae'r morfa heli yn cael ei orchuddio â charped porffor, seren y morfa, tra bo cannoedd o fôr-wenoliaid yn casglu yma yng ngheg yr aber. Mae digonedd o bysgod yma iddynt ac maent yn manteisio'n llawn er mwyn adeiladu eu cronfeydd ynni yn barod ar gyfer y daith hir yn ôl i Affrica.