Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Hydref a Gaeaf

Gwrando

Ar lanw uchel mae heidiau enfawr o adar hirgoes yn casglu ar y morfa heli a graean o flaen y guddfan adar.

Edrychwch allan am y rhostog gynffon ddu ymysg y gylfinir, mae'r ddau fath o adar yn cuddio'n effeithiol yn erbyn y gors er gwaethaf eu maint mawr. Mae'r pibydd coesgoch a'r piod môr, ill dau yn hawdd i'w adnabod gyda'i chwiban uchel.

Mae corhwyaid a hwyaid eraill yn trochi'n agos at y lan, yn bwydo ar hadau planhigion. Mae'r hwyaden lostfain hardd yn hawdd i'w hadnabod ymysg y chwiwellau a'r hwyaden wyllt tra bod hwyaden yr eithin yn fawr a lliwgar ac yn cadw i ddŵr dyfnach, yn bwydo ar falwod bach a physgod cregyn.

Mae'r adar ysglyfaethus megis yr hebog neu'r cudyll bach yn cael eu denu at gyfleon bwyd toreithiog gan anelu'n gyflym, a gwasgaru adar. Mae'r rhostog gynffon ddu yn ymdyrru gyda'i gilydd mewn ffurfiau cylchog, tynn gan arddangos eu cynffonau du a gwyn a bariau gwyn eang ar ei hadenydd.