Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Gwylio Adar yn y Parlwr Du

Gwrando

Mae'r Parlwr Du yn le ardderchog ar gyfer gwylio adar drwy gydol y flwyddyn.

Mae aber yr Afon Dyfrdwy yn un o'r ardaloedd gwlyptir pwysicaf ym Mhrydain, gyda dros 120,000 o adar gwlyptir yn dychwelyd bob hydref i fwydo ar y fflatiau llaid a morfa heli cyfoethog. Llanw uchel yw'r amser gorau i gael golwg agos oherwydd mae'r llanw'n gorfodi heidiau enfawr o adar hirgoes i'r forfa heli a graean o flaen y guddfan adar.

Hwyaid gynffon fain yw un o sêr yr aber, gydag oddeutu 6000 ohonynt yn hedfan i'r de o Rwsia dros y Gaeaf. Rhostog Gynffon Ddu yw rhywogaeth bwysig arall sy'n mudo o Wlad yr Iâ i fwydo ar y mwd a'r corsydd yma.

Mae'r gwanwyn yn dod â mudwyr haf megis teloriaid, siglennod a thinwen y garn tra bo'r ehedydd swnllyd yn cyhoeddi ei thiriogaeth. Ar ddiwedd yr haf mae'r môr-wenoliaid swnllyd plymio am bysgod, gan adeiladu eu stoci ynni yn barod ar gyfer y daith hir yn ôl i Affrica.