Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Tyrbinau Gwynt

Tyrbinau Gwynt

Mae'r môr oddi ar arfordir Gogledd Cymru wedi dod yn ganolbwynt ar gyfer ynni adnewyddadwy, ac yn arwain y ffordd wrth gynhyrchu trydan glân.

North Hoyle oedd y fferm wynt alltraeth gyntaf i agor yng Nghymru yn 2003 ac roedd yn arbrofol, gan helpu i ddatblygu ein dealltwriaeth yn ogystal â chynhyrchu ynni gwyrdd. Dilynwyd â phrosiect Gwastadeddau'r Rhyl yn 2009 gyda thyrbinau llai ond a oedd yn fwy pwerus, cynhyrchir digon o bŵer ar gyfer 61,000 o gartrefi bob blwyddyn. Mae pob tyrbin yn cael ei durio lawr oddeutu 25m i wely'r môr ac maent yn sefyll 80 metr uwchben lefel y môr.

Comisiynwyd Gwynt y Môr yn 2015 a hi yw'r fferm wynt alltraeth fwyaf yng Nghymru. Mae 160 o dyrbinau yn cynhyrchu digon o ynni i bweru 400,000 o gartrefi sy'n un rhan o dair o gyfanswm nifer y cartrefi yng Nghymru. Mae'r prosiect wedi creu dros 100 o swyddi peirianyddol arbenigol tymor hir, yn ogystal â chyflogi dros 2000 o bobl yn ystod y cyfnod adeiladu.

Llun trwy garedigrwydd Porthladd Mostyn