Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Prosesu nwy

Prosesu nwy

Mae nwy naturiol yn cael ei bibellu o Fae Lerpwl i Derfynell Y Parlwr Du, i'w felysu cyn cael eu hanfon at yr orsaf bŵer yng Nghei Connah.

Ffurfiwyd olew a nwy filiynau o flynyddoedd yn ôl gan blanhigion ac anifeiliaid wedi pydru, pan roedd yr ardal hon yn gors enfawr. Mae'r cronfeydd yn dal haen o garreg laid tua 1000 metr o dan wely'r môr. Mae olew yn cael ei brosesu a'i storio oddi ar y lan, ond mae'r nwy yn cael ei bibellu i'r Parlwr Du drwy biblinell 33.5km o dan y môr.

Ceir wared ag unrhyw lwch ynghyd â sylffwr er mwyn cynhyrchu nwy 'melys', sydd yna'n cael ei gludo 27km i orsaf bŵer Cei Connah ar gyfradd o 12.5 miliwn troedfedd giwbig yr awr. Mae'r orsaf bŵer yn cynhyrchu 1,400 megawat o drydan, digon i 1,400,000 o bobl.