Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Stori Thalacre

Stori Thalacre

Roedd y Warren ar un cyfnod yn rhan o Ystad Talacre, oedd yn eiddo i deulu Mostyn Hall Talacre, ac yn darparu digon o gwningod ac anifeiliaid hela eraill ar gyfer partïon saethu.

Adiladwyd y chalets gwyliau cyntaf yn y Warren ym 1933 ac erbyn 1935 roedd yn ddigon i warantu gosod traciau concrid a phrif gyflenwad dŵr. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd symudwyd deuluoedd yma o Lerpwl ac roedd y twyni'n cael eu defnyddio fel maes tanio awyrenau.

Ar ôl y rhyfel parhaodd Dalacre i fod yn gyrchfan gwyliau poblogaidd, tra bod rhai o'r byngalos yn gartrefi parhaol. Roedd y cyfleusterau'n sylfaenol syml, ond i'r plant o'r trefi a dinasoedd, yn enwedig, roedd yn le chwarae hudol ac mae llawer o bobl yn cael atgofion hapus o'u hamser yno.

Heddiw, mae'r ardal yr un mor boblogaidd ar gyfer teithiau dydd a gwyliau teulu, mae pobl yn cael eu denu at y traeth tywod eang a'r twyni cysgodol.