Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Twyni Tywod Talacre

Y twyni yma yw'r unig rai sydd ar ôl o system a oedd unwaith yn ymestyn o fan hyn i Ruddlan ac maent yn gartref i fywyd gwyllt arbennig iawn.

Mae'r ehedydd yn nythu yn y twyni yma rhwng mis Ebrill a mis Awst. Gwrandewch am y gwyryw yn canu'n uchel uwch eich pen, yn datgan eu tiriogaeth yn y gwanwyn.

Mae llyffantod gwrywaidd cefnfelyn yn casglu mewn pyllau bas ar nosweithiau gwanwyn, gan alw'n uchel i ddenu benywod. Mae llyffantod cefnfelyn yn cropian yn hytrach na neidio ac yn cloddio tyllau yn y tywod meddal, gan ddod i'r amlwg yn ystod y nos i fwydo ar bryfed. Mae madfallod y tywod yn bridio yma hefyd, gan ddodwy eu hwyau yn y tywod cynnes.

Cadwch lygad allan am y celyn môr pigog a'r tegeirian bera cain sy'n ffynnu yma, gan flodeuo ym mis Mehefin a mis Gorffennaf.