Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Melin y Waun

Mae gan y felin ddyddiad 1780, ond mae'n bosibl y bydd ei seiliau'n dyddio'n ôl i'r 14eg ganrif.

Yn wreiddiol roedd yn perthyn i ystâd Castell Y Waun. Wedi'i newid a'i helaethu dros y blynyddoedd, bu'n parhau i falu ŷd hyd at 1960. Yn 1927 gosodwyd olwyn ddŵr i gynhyrchu trydan ar gyfer Y Waun, yn anffodus, roedd Afon Ceiriog yn cario cymaint o falurion fe dagodd y tyrbin a daeth diwedd ar y syniad yn 1933. Menter arall oedd cynhyrchu Mica, a daeth diwedd ar hynny hefyd yn 1937. Cafodd yr olwyn ddŵr ei ysgubo ymaith ym 1941 oherwydd llifogydd difrifol ar Afon Ceiriog.
Heddiw mae'r Melin yn gartref i fusnes gwelyau hynafol.