Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Ffordd Caergybi

Wrth fynd i'r Waun o'r de, rydych yn croesi Pont Y Waun a oedd yn ei lle mor gynnar â 1657.

Cafodd y bont ei golchi i ffwrdd yn storm fawr 1706 a'i hailadeiladu. Cafodd ei hailadeiladu a'i lledu ym 1793 gan Simpson o'r Amwythig. Cafodd y ddringfa i'r dref ei hail-weithio gan Telford i leihau gerwinder y llethr i'r coetsis mawr oedd yn dod i'r pentref fel yr oedd yr adeg hynny.
Cafodd yr A5 ei hail-adeiladu'n llwyr gan Telford ac fe gymerodd 10 mlynedd i'w chwblhau ond cofnodir mai ychydig iawn o waith a wnaed trwy'r Waun gan fod y ffordd yn ddigon llydan. Roedd dau dollborth yn yr ardal, un wrth i chi adael y pentref ger Parc Lodgevale ac un arall yn Whitehurst.