Roedd y Bridge Inn yn adnabyddus yn lleol fel 'Y Trap' oherwydd ei fod yn denu'r glowyr ar eu ffordd adref o'r gwaith!
Adeiladwyd y Bridge Inn tua 1825 wedi i'r Peiriannydd Sifil Thomas Telford adeiladu Ffordd Caergybi a chreu ffordd osgoi o Gobowen i'r Waun i ddileu problemau hen lwybr Chirk Bank. Symudodd Edward Davies, perchennog Tafarn y Gamlas (a oedd ger lle mae Pont y Mynach heddiw ar yr hen lwybr) ei fusnes yma wrth ymyl Pont Y Waun presennol. Fe wasanaethodd y dafarn hefyd fel swyddfa i Lofa Chirk Bank gerllaw. Roedd rhes o fythynnod yn sefyll lle mae'r maes parcio a cawsant eu dymchwel yn y ganrif ddiwethaf.


