Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Brwydr Bont y Waun

Roedd Glowyr Cymru yn wynebu'r Shropshire Yeomanry yma ym 1831.

Roedd y digwyddiad rhyfeddol hwn yn ganlyniad i lowyr lleol yn gofyn am godiad cyflog a gwell amodau gwaith. Wnai'r perchnogion pwll glo ond cytuno i'r gofynion hyn pe bai perchnogion glofeydd Swydd Amwythig hefyd yn cytuno â'r amodau uchod. Ymdeithiodd dros 2000 o lowyr o Rhos, Rhiwabon, Cefn a'r Waun ar Groesoswallt er mwyn wynebu perchnogion glofeydd Sir Amwythig. Ar Bont y Waun daethant wyneb yn wyneb â Chafalri'r Shropshire Yeomanry ynghyd â 100 o gwnstabliaid arbennig, ugeiniau o blismyn a magnelau yn ogystal â grŵp o bensiynwyr Chelsea! Dechreuodd ffrwgwd a chafodd tri o arweinwyr y glowyr eu arestio a darllenwyd y Ddeddf Derfysg cyn i'r glowyr gytuno i wasgaru.