
Ymddengys y cofnod cyntaf o gloddio difrifol ym Mryncunallt, neu Chirk Green fel y gwyddys amdano, yn 1840.
Er cael un perchennog ar ôl y llall, roedd Bryncunallt yn cael trafferth i fod yn bwll proffidiol a nid oedd yn cyrraedd y ffigyrau tunelledd. Ym 1862 ychwanegwyd llinell reilffordd i gludo'r glo yn uniongyrchol i'r brif linell yn Y Waun. Roedd streic y glowyr hir yn 1893 yn achosi llawer o drallod yn y gymuned, gan ychwanegu at drafferthion y pyllau. Cafwyd llwyddiant o'r diwedd gan y perchennog ar y pryd W Y Craig, yn 1913, er y cyflawnwyd hyn mewn pwll cyfagos yn Ifton Rhyn, St Martins. Caewyd y pwll yn 1951 a throsglwyddwyd gweithlu Bryncunallt yn raddol i'r pwll newydd gerllaw.