Adeiladwyd Ystad Chirk Green i gartrefu glöwyr glofa Bryncunallt gerllaw.
Adeiladwyd yr ystâd gan Reolwr y Lofa, R H Longbottom, ac roedd yn cynnwys pedair rhes o 72 tŷ cefn yn gefn. Cwblhawyd yr ugain o dai cyntaf ym 1863, gan gyrraedd cyfanswm o gant ac ugain erbyn 1893. Mae gan lawer o bobl hŷn Y Waun atgofion hyfryd o fyw o fewn y gymuned glos a oedd yn bodoli yng nghysgod y pwll. Dymchwelwyd yr ystad yn gynnar yn yr 1980au. Ar wahân i'r bryn wedi'i dirlunio gerllaw sydd bellach yn barc, nid oes arlliw o'r hen Lofa i'w weld.
Diolch i Hadyn Edwards am y lluniau


