
Fe'i sefydlwyd gan Lady Rosamund Trevor ym 1904, roedd Bryncunallt yn gwasanaethu fel ysbyty plant am ddeuddeg mlynedd gyda'r teulu Trevor yn cyfrannu rhan fwyaf yr arian oedd ei angen i'w redeg a'i gynnal.
Dechreuodd glowyr Pyllau y Bryncunallt gerllaw, y Parc Duon a'r Ifton dalu £10 y flwyddyn tuag at ward oedolion a chynnal cyffredinol yr ysbyty. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cymerwyd Ysbyty'r Plant i helpu i letya'r bobl a anafwyd cyn mynd yn ôl i'w rôl wreiddiol ar ddiwedd y gwrthdaro.
Parhaodd yr Ysbyty i wasanaethu'r gymuned yn trin dros 32,000 o gleifion rhwng 1904 a 1920 hyd nes agorwyd Ysbyty'r Waun newydd mewn adeilad pwrpasol gerllaw ym 1921.