Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Castell Mwnt a Beili

Castell Mwnt a Beili

Y Mwnt a Beili Normanaidd hwn oedd Castell cyntaf y Waun.

Wedi'i leoli mewn gardd breifat yng nghefn Mount House mae gweddillion cudd castell cyntaf Y Waun. Efallai bod y Mwnt a Beili Normanaidd hwn wedi eu adeiladu yn y 1100au cynnar, gan William Peverel o Dover, i warchod croesi'r Afon Ceiriog isod. Mae'r Rhôl Siecr Gŵyl Fihangel 1165 yn nodi bod 21 o ddynion wedi gwarchod y castell rhag ymosodiad gan y Cymry yn ystod ymgyrch Cymru Henry II yn 1165. Soniwyd hefyd yn y Rhôl Siecr o 1213, am dalu £5 i naill ai atgyweirio neu adeiladu tŵr crenelog pren yn y castell. Fe aeth y castell â'i ben iddo a dadfeilio'n gyflymu gydag adeiladu'r Castle Y Waun presennol gan Roger Mortimer yn 1295.