
Adeiladwyd yr eiddo hwn gan Thomas Myddelton o Gastell y Waun yn 1753 fel tŷ trefol.
Credir mai yma oedd safle un o'r ysgolion cyntaf yn Y Waun ac mae darn o'r adeilad wedi'i gynnwys mewn grisiau cerrig yng nghefn yr adeilad.
Roedd y tŷ hefyd yn gartref i Dr J D Lloyd a oedd yn feddyg yma hyd ei farwolaeth yn 1922. Roedd yn allweddol yn adeiladu Ysbyty'r Waun gwreiddiol, yn ystod ei gyfnod fel Swyddog Meddygol yr Ardal Wledig.
Am ychydig yn y 1950au, roedd hefyd yn swyddfeydd y cyngor.
I'r dde o'r tŷ mae adeilad a ddefnyddiwyd fel yr Orsaf Dân gyntaf.