Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Glofa'r Parc Duon

Glofa'r Parc Duon oedd un o'r pyllau glo hynaf yng Ngogledd Cymru.

Mae glo wedi ei gloddio yma ers y 1500au hwyr gan Syr Thomas Myddelton o Gastell y Waun. Crybwyllir Glofa'r Parc Duon am y tro cyntaf yn 1750, ac mae'n un o nifer o gloddfeydd cyfagos gyda siafftiau wedi'u leinio â brics. Gosodwyd tramffordd yn gynnar yn y 1800au a arweiniodd at Gamlas Undeb Sir Amwythig a hefyd i lanfa ddosbarthu fasnachol fawr a oedd yn cynnig cyfleusterau angori dwbl. Ar ei anterth roedd y pwll yn cyflogi tua 500 o ddynion cyn iddo gael ei gau ym 1949. Mae'r safle bellach wedi'i lenwi ac nid oes arwyddion o waith mwyngloddio heddiw, ac eithrio'r domen rwbel sydd wedi'i lleoli y tu ôl i Ysbyty'r Waun heddiw.