Mae Eglwys Fethodistaidd y Parc Duon yn etifeddiaeth fwyngloddio.
Nid yw'n glir pryd y dechreuodd Methodistiaeth Gyntefig yng nghymuned y Parc Duon a Halton. Yn y lle cyntaf, cynhaliwyd cyfarfodydd mewn nifer o gartrefi a buan y tyfodd y gynulleidfa yn rhy fawr, ac felly'r angen am adeilad mwy. Daeth y rhan fwyaf o'r arian oedd ei angen i adeiladu'r Eglwys o gyflogau glöwyr Glofa'r Parc Duon gerllaw, a hefyd o roddion lleol. Gosodwyd y cerrig sylfaen ar 5 Gorffennaf, 1875 a chontractwr yr adeilad oedd Griffith Griffiths o'r Waun. Agorodd yr Eglwys ar 6 Ebrill, 1876 yn gwasanaethu cymuned o tua 600 o bobl.
Trwy dîm o wirfoddolwyr ymroddedig, mae bellach yn gwasanaethu'r gymuned mewn gwahanol ffyrdd ac wedi cael ei adfywio gyda chymorth Grant y Loteri Genedlaethol.


