
Institiwt y Parc Duon yw canolbwynt y gymuned.
Adeiladwyd yr Institiwt i ddarparu lle cyfarfod a chanolfan hamdden i bobl ifanc y pentref. Prynwyd y tir lle mae'r Institiwt oddi wrth Mr Albert Parrish am £150.00 ym 1921. Yn wreiddiol, cwt pren milwrol oedd y lleoliad a chafodd ei agor ar Fawrth 23, 1921. Agorwyd yr Institiwt presennol ar Fai 20fed, 1939, a gosodwyd lawnt fowlio a chyrtiau tenis yng nghefn yr adeilad yn fuan wedyn. Heddiw, yr Institiwt yw'r lleoliad ar gyfer ystod eang o ddigwyddiadau cymunedol.