Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Gatiau Heirdd

Codwyd y gatiau rhwng 1719 a 1721 gan Robert a John Davies o'r Bers.

Wedi'u lleoli yn wreiddiol yn Plas Newydd, cawsant eu symud rywbryd ar ôl eu codi i ffurfio cwrt blaen wrth fynedfa'r castell, ond yna symud yn ôl i Blas Newydd lle buont nes iddynt gael eu symud yn 1888 i'r lleoliad presennol. Y gost wreiddiol oedd £ 113-4-0d, er gyda newidiadau diweddarach i'r sgriniau ochr ac ychwanegiadau cynyddodd y costau hyn.
Mae'r cynllun yn ymgorffori Arfbais Myddelton sy'n cynnwys y llaw waedlyd goch, y tri blaidd a phen yr eryr. Mae'r porthdy bach i'r ochr yn ychwanegiad llawer hwyrach. Mae'r ffordd o flaen y gatiau yn ffordd ganoloesol gynnar o Groesoswallt.