Roedd adeilad gwreiddiol yr orsaf Fictoraidd yn cwmpasu ystafell aros / docynnau a mannau didoli ac ar y brig roedd llety meistri'r orsaf.
Fe'i newidiwyd yn ddiweddarach gyda'r tŷ cyfagos yn cael ei adeiladu iddo ef a'i deulu. Fe'i gelwid yn wreiddiol yn orsaf Hand Lane, dymchwelwyd adeilad yr orsaf a'i ddisodli gan y ddwy ystafell aros a welwch heddiw.
Yn ei anterth roedd y llinell yn cael ei gweithredu gan drenau prif linell yn rhedeg rhwng Llundain a Chaer.
Fe'i lluniwyd gan Henry Robertson a gymerodd ddim ond deunaw mis i gwblhau Traphont y Waun gyda'r agoriad swyddogol yn 1848. Pan adeiladwyd yn gyntaf, roedd bwâu bob pen y derfynfa wedi'u gwneud o bren ond fe'u newidwyd am rai carreg ryw ddeng mlynedd yn ddiweddarach.



