Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Maes Chwaraeon AAA Y Waun

Maes Chwaraeon AAA Y Waun

Maes Chwaraeon Cymdeithas Athletau Amatur yw'r lleoliad ar gyfer chwaraeon maes yn Y Waun ers 1914.

Prynodd y bonheddwr lleol, yr Arglwydd Howard de Walden o Gastell Y Waun, y tir fel rhodd i'r pentref. Mae Criced wedi cael ei chwarae yma o bosibl ers yr 1870au a phêl-droed ers 1918. Pan fu farw yr Arglwydd Howard de Walden ym 1946, rhoddwyd y cae ar werth am £750.00. Dim ond £360.00 allai'r Clwb godi tuag at y pryniant ond rhoddwyd y gwahaniaeth gan Ymddiriedolaeth Ellen Barnes Weston Rhyn gan adael iddynt brynu'r maes yn llwyr.
Heddiw mae darpariaeth ar gyfer bowlio, pêl-droed a chriced ar y maes yn ogystal â charnifalau a ffeiriau.