Kronospan yw ail gyflogwr mwyaf Gogledd Ddwyrain Cymru.
Dechreuodd cwmni Kronospan o Awstria gynhyrchu yn Y Waun ym Mai 1973. Ers hynny mae'r safle wedi tyfu'n sylweddol gyda'r safle bellach yn cyflogi 650 o bobl. Mae'r cyrn simnai mawr sy'n allyrru stêm fel rhan o'r broses sychu sglodion pren yn amlwg. Nhw yw prif wneuthurwr cynnyrch pren y DU gyda mwy na 40 o safleoedd ledled y byd yn cynhyrchu lloriau laminedig, wyneb gweithio ceginau, MDF, a bwrdd sglodion wyneb melamin ynghyd â llawer o gynhyrchion eraill. Maent yn cyflogi dros 14,000 o bobl ledled y byd gyda 70% o gyfanswm y gwerthiannau cynnyrch yn dod o'r Marchnadoedd Newydd. Mae tua 25% o'r gweithlu yn seiliedig yn Y Waun.


