
Mrs Myddelton-Biddulph oedd yn gyfrifol am adeiladu'r hen ysgol i ferched Y Waun ym 1843.
Fe gyflogodd y pensaer enwog Fictorianaidd A W N Pugin, (a chwaraeodd ran helaeth yn nylunio'r Senedd) a oedd yn gweithio yn y newidiadau yng Nghastell y Waun ar y pryd. Cost yr adeilad oedd £450.00 a dalwyd gan y teulu Myddleton-Biddulph. Cafodd yr ysgol ei ehangu yn yr 1870au ac eto ym 1903. Caewyd Ysgol y Bechgyn gyfagos ym 1951 ac fe'i cyfunwyd ag Ysgol y Merched. Peidiodd yr adeilad fel ysgol ym 1967.
Heddiw, mae'n goroesi fel warws ddodrefn.