
Ffatri Prosesu Ffa Coco, Cadburys gynt
Ym 1968 agorodd Cadbury eu ffatri toddyddion yn Y Waun, ac yna ym 1969 daeth yr ochr prosesu ffa coco o'r gwaith sy'n cyflogi tua 350 o bobl ar hyn o bryd. Mae safle Rhyngwladol Mondelez yn Y Waun yng Nghymru yn ffatri prosesu ffa coco lle mae siocled yn cael ei wneud, roedd y safle gynt yn rhan o grŵp Cadbury hyd nes iddo gael ei brynu gan Kraft yn 2010. Mae'r ffa yn cael eu danfon i'r Waun, eu gwagio ar gludfelt, eu glanhau'n drylwyr a'u prosesu. Yna caiff y ffa eu rhostio mewn drwm troi o'r enw rhostiwr parhaus. Caiff aer poeth ei hidlo i mewn i'r rhostiwr wrth i'r ffa fynd ar ei hyd, ac yn ystod y broses hon byddwch chi'n dechrau arogli siocled.