
Roedd yr Hand yn dŷ trefol i deulu Myddleton.
Y pen deheuol yw'r adran hynaf sy'n dyddio o'r 16eg ganrif, gyda'r rhan ganolog o'r 18fed C ac ychwanegwyd y gogledd yn yr 1900au.
Roedd yn dŷ trefol ar gyfer teulu Myddelton ac fe'i defnyddiwyd hefyd ar gyfer cyfarfodydd amrywiol a digwyddiadau chwaraeon i'r boneddigion lleol. Efallai mai dyma safle'r Neuadd Fawr a gallai fod wedi'i adeiladu ar sylfeini hŷn.
Roedd yr adran deheuol hefyd yn cael ei osod i of gwyn ac yn y 1900au roedd yn garej ac yn gwerthu petrol.
Er nad oedd yn fan swyddogol i'r coets fawr, roedd cerbydau yn aros yma ar eu ffordd i Gaergybi.
Yn 1911 fe'i prynwyd gan Border Breweries, ond erbyn hyn mae mewn dwylo preifat.