Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Sgwâr y Frenhines

Roedd y stryd fechan hon unwaith yn ardal amlwg a phrysur o'r pentref am mai dyma'r coetsiws.

Mae'r drws bwaog mawr yn weladwy o hyd yn yr adeilad. Ar y fynedfa dde i'r Sgwâr roedd ffynnon ddŵr a ddefnyddiwyd yn amlwg gan bobl leol a cheffylau fel ffynhonnell dŵr ffres. Roedd hefyd yn gartref i'r gweision stabl a chredir iddo ddarparu cysgod i wahanol farchnadoedd a bod mynediad hefyd i efail y gof yn y cefn a oedd ar Rhodfa'r Orsaf.
Heddiw mae'r adeilad wedi'i rannu'n sawl bwthyn clyd.