Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Ysgol y Bechgyn

Ysgol y Bechgyn

Ariannwyd Ysgol y Bechgyn gan Mrs Charlotte Myddelton - Biddulph a darparodd lety i 100 o fechgyn.

Fel llawer o leoedd roedd y system addysg yn Y Waun yn ad hoc iawn gydag ysgolion elusennol yn cael eu rhedeg tan 1824 pan agorwyd Ysgol y Bechgyn.
Ar y pryd, roedd rhai disgyblion yn talu 2 geiniog yr wythnos yn codi i 6 cheiniog wrth i'r cwricwlwm ehangu, a'r arian yn mynd i dalu cyflog yr ysgolfeistri. Ymestynnwyd yr adeilad ym 1857 i gymryd 123 o ddisgyblion a hefyd i gynnwys maes chwarae o fewn waliau.
Yn dilyn cau'r ysgolion, cafodd yr adeilad ei roi i'r Lleng Brydeinig Frenhinol gan y Cyrnol Ryrid Myddelton ym 1964 i wasanaethu fel Pencadlys y Lleng, fodd bynnag, yn 2017 daeth y clwb cymdeithasol i ben a gwerthwyd yr adeilad.