
Roedd y Neuadd yn gartref i'r 4ydd Bataliwn Adfyddin y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a Chwmni Platŵn E Gwirfoddolwr Y Waun o Fataliwn 1af y RWF
Fe wasanaethodd hefyd fel estyniad i Ysbyty Bwthyn Bryncunallt gerllaw a noddwyd gan y teulu Trevor o'r Waun a'i rhedeg ganddynt. Agorwyd yr Ysbyty Gynorthwyol ym mis Mawrth 1918 gyda darpariaeth ar gyfer 36 o welyau, oedd, gyda'r rhai yn Ysbyty Bwthyn Bryncunallt, yn dod â'r ddarpariaeth yn Y Waun i filwyr a anafwyd i chwe deg o welyau.
Mae'r neuadd hefyd wedi gwasanaethu Brigâd Ambiwlans Sant Ioan a, than yn ddiweddar, roedd yn Orsaf Ambiwlans leol i Wrecsam.