Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Bywyd Gwyllt Afon Alun

Mae bywyd gwyllt yn ffynnu yn nyfroedd glân Afon Alun.

Gwrando

Mae Pete Evans yn disgrifio peth o'r bywyd gwyllt sydd i'w weld ar hyd Afon Alun.

Ar hyd ymyl Afon Alun mae coed gwern gyda gwyddau bach cochlyd a chlystyrau o foch coed bychan arnynt sy'n darparu bwyd i adar fel pilaod gwyrdd. Mae dyfrgwn yn defnyddio'r afon yn rheolaidd hefyd ond mae'n annhebygol y byddwch chi'n gweld y creadur swil hwn.

Mae'r afon yn boblogaidd gyda physgotwyr gan fod brithyll brown yn ffynnu yn y dŵr glân ac mae eogiaid a phenllwydion hefyd yn cynyddu. Mae llwybr pysgod wedi'i adeiladu yn un o'r hen llifddorau wrth ochr y gored ger hen felin Pen Bont i helpu eogiaid, brithyllod a llyswennod sy'n mudo i nofio i fyny'r afon i silio.

Efallai y gwelwch fflach gwyrddlas llachar glas y dorlan neu gael cip ar fronwen y dŵr, aderyn brown bywiog gyda bib gwyn, yn siglo i fyny ac i lawr ar greigiau ar lan yr afon neu'n hedfan yn gyflym ar ei hyd.

Mae mursennod main lliwgar yn hofran uwchben llystyfiant ar ymyl y dŵr ac yn aml gwelir gweision y neidr mwy, gan gynnwys y picellwr pedwar nod, ger yr afon neu'n chwilota ger gwrychoedd.