
Hen felin lifio, Caergwrle 
Hen felin lifio, Caergwrle gan H. Eccleston 1951 
Mill End Bridge 

Mill End Bridge 
Mill End Bridge 
Defnyddiwyd dyfroedd llif cyflym yr afon i bweru sawl melin.
Yn 1662 roedd tair melin ŷd ar Afon Alun. Gwnaed meini melin o dywodfaen caled Cefn-y-Fedw a chwarelwyd yn lleol. Byddai pob fferm yn mynd â grawnfwydydd i'r melinau lleol i'w malu. Mae'n debyg mai'r felin ganoloesol bwysicaf oedd Melin Bryn Rhyddyn, a elwid yn ddiweddarach yn Melin Pen Bont. Parhaodd i falu blawd ymhell i'r 20fed ganrif. Defnyddiwyd blawd y felin i wneud un o'r blawdiau hunan-godi cyntaf.
Roedd y felin lifio yn cael ei bwydo gan ffrwd melin o'r bont pynfeirch ac roedd yn cael ei rhedeg gan y teulu Evans am nifer o flynyddoedd. Yn ddiweddarach symudodd i Sarn Lane i fod yn agosach at Orsaf Yr Hôb.