Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Pont Pynfeirch

Efallai bod y Bont Pynfeirch ar Fellows Lane yn dyddio o ddiwedd yr 17eg ganrif.

Gwrando

Mae Pete Evans yn esbonio pam mae'r bont bynfeirch yn bwysig.

Am ganrifoedd, defnyddiwyd pynfeirch i gludo nwyddau ar hyd ffyrdd a oedd yn rhy dyllog a mwdlyd ar gyfer troliau a wagenni. Byddai llinell hir o bynfeirch hyd at ddeg ar hugain o anifeiliaid, dan faich basgedi gwiail neu gewyll yn cario nwyddau fel corn, mwyn metel, glo a brethyn, yn teithio cryn bellter. Roedd gan y ceffyl blaen glychau ar ei harnais i rybuddio pentrefwyr eu bod yn dynesu.

Roedd Caergwrle ar y llwybr pynfeirch o Gaer i'r Bala ac adeiladwyd pont pynfeirch arbennig, gyda pharapetau isel a oedd yn caniatáu i'r mulod llwythog iawn basio'n hawdd, dros yr afon.