Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

O dan y Tŵr

Dyma fynedfa'r Eglwys

Gosodwyd y grisiau i fyny i'r eglwys o Ddrws y Gorllewin ym 1884 pan godwyd llawr corff yr eglwys. Ar ben y grisiau gallwch weld y patrwm yn y teils sy'n dangos lle safodd y bedyddfaen tan yr adnewyddu yn 2000 pan gafodd ei symud i leoliad llai traddodiadol ond mwy diogel yn yr eil ddeheuol. Os edrychwch i fyny fe welwch y canhwyllyr sydd bellach, diolch i oleuadau LED effeithlon, yn gallu cael eu gadael ymlaen bob dydd fel croeso i ymwelwyr. Ar sylfaen y canhwyllyr mae'r arysgrif ganlynol: “Rhoddwyd y canhwyllyr hwn gan ei chwiorydd er cof am Austin Ellis Lloyd Jones MC 1884 - 1967, Barnwr yr Uchel Lys a mab y Rheithor TE Jones”.

Bwrdd Rhoddion y 18fed Ganrif

O dan y Tŵr

Ar ben y grisiau ar eich ochr dde fe welwch fwrdd pren mawr: Bwrdd Rhoddion o'r 18fed Ganrif yw hwn. Ym mis Awst 2016 gwnaethom gychwyn ar y prosiect i warchod y Bwrdd Rhoddion o'r 18fed Ganrif sy'n hongian yn mynedfa orllewinol yr eglwys. Mae'r cofnodion, a'r olaf ohonynt wedi'i ddyddio o 1720, yn rhestru'r rhoddion a roddwyd gan gymwynaswyr; mae'r rhan fwyaf yn nodi arian neu fwyd i'w ddosbarthu i'r tlodion ond mae cofnod hefyd yn dangos “costrel a phlât” arian i'w rhoi i'r eglwys.

Roedd yr ysgrifen ar y bwrdd yn mynd yn anodd i'w weld ac roedd perygl i'r cofnod hanesyddol gael ei golli; ar ben hynny roedd rhywfaint o bryder bod y strwythur pren yn dirywio felly yn 2016 cyflawnodd Cyfeillion Eglwys Yr Hôb brosiect i warchod y Bwrdd. Cafodd ei symud yn ofalus a'i gludo i gadwraethwyr ger Croesoswallt, ac yna ei ail-osod. Efallai y byddwch yn dod o hyd i fyrddau tebyg mewn eglwysi eraill ac mae'n ymddangos eu bod i gyd yn dyddio o'r cyfnod.

Paentiad o Arfbais

O dan y Tŵr

I'r dde o'r Bwrdd Rhoddion mae llun bach o Arfbais Sior III; mae wedi'i baentio ar bren ac mae ysgrifen ar y cefn, a ddarganfuwyd pan gafodd ei warchod yn 2016, yn nodi'r dyddiad 1792.

Pwysau'r hen gloc

Ar waelod y grisiau ar yr ochr chwith fe welwch bwysau mawr yn y gornel y tu ôl i'r rheiliau; gosodwyd mecanwaith weindio awtomatig yn ddiweddar felly mae'r pwysau bellach yn ddiangen - ond nid yn ddi-gariad!

Casgliad Diddorol

O dan y Tŵr

I'r chwith, uwchben y cwpwrdd derw, mae casgliad o eitemau amrywiol. Mae'r cwpwrdd Perspex yn cynnwys derw o'r 12fed ganrif ddaeth o drawstiau'r to, a adnewyddwyd yn 2000. Ac i'r chwith mae Cloch yr Offeiriaid a ddefnyddir bellach i hysbysu'r canwyr clychau pan fydd priodferch wedi cyrraedd a phan fydd y gwasanaeth priodas yn dod i ben. Uwchben y pethau hyn mae bwrdd pren du bach yn rhoi manylion ffioedd: nid yw wedi'i ddyddio - ond yn sicr nid yw'n gyfoes!

Cofebau'r Rhyfel Pres

O dan y Tŵr

Ar y chwith i chi, ar y naill ochr a'r llall i ddrws mawr y festri, mae cofebion i'r rhai a gwympodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd. Mae'r platiau pres wedi'u gosod ar garreg Connemara.

Uwchben y rhestr o enwau ar gofeb y Rhyfel Byd Cyntaf mae'r arysgrif ganlynol: “Er gogoniant i Dduw ac er cof anrhydeddus am ddynion y plwyf hwn a syrthiodd yn y Rhyfel Mawr gosodwyd y goflech hon a Rhes o Glychau yn y Tŵr 1920 O.C.”

Uwchben y rhestr o enwau ar gofeb yr Ail Ryfel Byd mae'r arysgrif:

“Er gogoniant i Dduw ac er cof diolchgar am y rhai o’r plwyf hwn a wnaeth yr aberth eithaf yn yr Ail Ryfel Byd”