Efallai bod Clawdd Wat wedi ei gloddio yn yr 8fed ganrif i lywodraethwyr Sacsonaidd Mercia, er mwyn amddiffyn eu ffin â Gogledd Cymru.
Roedd y clawdd 65km yn rhedeg o gorstir i'r de o Groesoswallt, i Wrecsam, ar hyd ochr ddwyreiniol Cwm Alun i Abaty Dinas Basing yn Nhreffynnon. Yn ei hanfod roedd yn glawdd tal, gyda ffos ar yr ochr orllewinol. Nid oedd adeiladu'r clawdd yn fenter hawdd gan ei fod, ar gyfartaledd, ychydig dros 8m o led yn ei waelod. Fe'i gwnaed yn bennaf o bridd wedi'i atgyfnerthu â haenau tyweirch. Mae un amcangyfrif yn awgrymu y byddai wedi cymryd tua chant o ddynion oddeutu blwyddyn i adeiladu'r clawdd 65km!
Gweddillion y clawdd yw'r gefnen uchel, y mae'r llwybr troed o Blas Rhyddyn i Fferm Gresffordd yn rhedeg ar ei hyd.
Mae Llwybr Treftadaeth Ffordd Clawdd Wat, taith gerdded 61 milltir (99km) trwy'r gororau rhwng Lloegr a Gogledd Cymru, o Lanymynech, yn Swydd Amwythig, i Dreffynnon wedi'i seilio ar gyfeiriad Clawdd Wat ac yn mynd trwy Yr Hôb a Chaergwrle.

