





Stonechat Benywaidd 
Hen chwarel 




Mae'r golygfeydd agored eang o ben Mynydd Yr Hôb wedi denu ymwelwyr ers cenedlaethau.
Daeth y cerddwyr cyntaf ar y trên yn y 19eg ganrif. Cymaint oedd y poblogrwydd nes i'r cwmni rheilffordd gynhyrchu llyfr o deithiau cerdded awgrymedig hyd yn oed.
Roedd yn boblogaidd gyda phobl leol hefyd, yn enwedig ar gyfer gwibdeithiau fel tripiau Ysgol Sul ac roedd pobl ifanc wrth eu bodd yn padlo yn y llyn.
Mae'r mynydd wedi cadw ei apêl ar gyfer ymwelwyr a phobl leol. Bellach mae'r rhostir agored yn Barc Gwledig Waun y Llyn, a reolir gan Wasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint.