
Mynedfa i'r sba 
Twr Sant Cuthbert 
Ffatri Botelu Caergwrle 


Pafiliwn 
Pafiliwn 

Tŷ pwmp 
Neuadd Rhyddyn 
Heb os, yr atyniad mwyaf ar ddechrau'r 20fed ganrif oedd Sba Caergwrle ym Mhlas Rhyddyn.
Honnid bod y dŵr ffynnon sylffwrog o'r ffynhonnau ar y tir yn gwella anhwylderau'r croen. Erbyn 1902, roedd Caergwrle eisoes yn denu nifer dda o ymwelwyr a gallai'r perchennog, yr Is-gapten Roe Brown, weld potensial masnachol y ffynhonnau. Yn 1907 gwerthodd Plas Rhyddyn a'r ffynhonnau i syndicet a'u datblygodd yn atyniad twristaidd llwyddiannus.
Aethai ymwelwyr i mewn trwy fynedfa porthcwlis dramatig yn y wal gerrig dal, gan dalu eu ffi mynediad wrth y bythau talu cerrig ar y naill ochr. Yna cerddent i lawr y dreif, gan basio Tŵr St Cuthbert a gwaith potelu brics coch mawr a oedd yn cynhyrchu 14,000 o boteli o'r dŵr pefriog halwynog bob dydd.
Cafodd Plas Rhyddyn ei hun ei droi’n westy, yn darparu ar gyfer yr ymwelydd cyfoethocach, ond canolbwynt y rhai oedd yn mynd am y dydd oedd y pafiliwn a’r ystafell de drawiadol ar y tiroedd. Arweiniodd ffenestri Ffrengig at deras a ddefnyddid ar gyfer pob math o adloniant. Roedd Band Bwcle yn aml yn chwarae yn y bandstand ac roedd peiriannau ceiniogau, lawnt fowlio ac atyniadau eraill. Gallai ymwelwyr hefyd flasu'r dyfroedd meddyginiaethol yn y pwmpdy uwchben y ffynnon sylffwr neu fynd am dro drwy'r tir wrth yr afon.