Cyn i Neuadd yr Eglwys gael ei hadeiladu nid oedd ystafelloedd ymgynnull mawr yn y pentref i gynnal unrhyw ddigwyddiadau sylweddol.
Cyflwynodd Eglwys Crist gynllun i ddarparu neuadd bentref er budd y gymuned. Ar ôl nifer o gyfarfodydd penderfynwyd adeiladu'r neuadd ar ddarn o dir yn Ffordd yr Orsaf yn perthyn i Ystâd Trevalyn. Rhoddwyd tua chwarter erw gan y teulu Boscowan at y diben hwn. Codwyd arian ar gyfer y prosiect trwy gyfraniadau cyhoeddus, a gosodwyd y garreg sylfaen ar 6 Ebrill 1911 gan Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Kenyon. Dyluniwyd y neuadd gan P H Lockwood, Pensaer o Gaer. Cost yr adeilad oedd £1800. Y contractwr a adeiladodd y neuadd oedd cwmni adeiladu lleol, Joseph Johnson o Drevalyn. Roedd y neuadd wedi'i hadeiladu'n dda mewn brics coch gyda nodweddion cerrig a tho teils. Roedd cynllun y neuadd yn darparu digon o le, ac mae wedi bod yn gaffaeliad mawr i'r pentref erioed.