Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Ystafelloedd Coco

Ystafelloedd Coco

Dyluniwyd yr Ystafelloedd Coco ac Institiwt Yr Orsedd gan Douglas a Fordham ac maent yn dyddio o 1881. Fe'u hariannwyd gan y masnachwr a'r perchennog llongau o Lerpwl Alexander Balfour a oedd yn ddyngarwr ac ymgyrchydd dirwest nodedig.

Roedd yn cynnig dewis arall yn lle tafarn yn y mudiad dirwest fel canlyniad i wrthwynebiad cynyddol i alcohol. Wedyn daeth yn lle poblogaidd i gyn-filwyr gwrdd ac yfed coca ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae'r blaenlun mewn arddull Neo-Duduraidd gyda fframio pren ffug a phaneli pedeirdalen addurnol ar lefel y llawr cyntaf, ffenestri myliynog a chroeslathog gyda phlwm a drws bwa isel.
Gadawyd yr adeiladau i'r gymuned ac fe'u rheolir gan fwrdd ymddiriedolwyr o'r enw Ymddiriedolaeth Balfour. Gwerthwyd un adeilad yn ddiweddar gan yr ymddiriedolwyr i ddatblygu eiddo preswyl a defnyddir yr elw ynghyd ag incwm rhent yr adeilad arall i gefnogi achosion da lleol.