Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Hanes Melin Yr Orsedd

Yn 1661 ehangwyd Melin yr Orsedd trwy ychwanegu'r hyn sydd bellach yn rhan ganolog.

Roedd Syr John Trevor, o Blas Trevalyn, newydd ddod yn berchennog melinau Yr Orsedd a Marford. Ychwanegwyd trydydd estyniad (ar y dde) yn y 1820au.
Boddodd un o weithwyr y felin yma ym mis Gorffennaf 1895, chwe mis ar ôl dechrau gweithio i'r melinydd Thomas Lewis. Dim ond tua 45cm o ddyfnder oedd ffrwd y felin ar y pryd y boddodd Sarah Jane Howell, 19 oed, ynddi. Roedd hi wedi dioddef ffitiau ers ei phlentyndod. Yn ei chwest, ni allai ei mam awgrymu unrhyw reswm dros hunanladdiad. Prynwyd y felin ym 1973 gan Mike Kilgannon, a adferodd yr adeilad a'r peiriannau. Agorodd y felin i'r cyhoedd ar benwythnosau a gwerthu blawd wedi'i falu yn yr adeilad. Gosododd y felin ar y farchnad yn 2011. Cafodd ei phrynu gan berchnogion newydd yn 2013.