Yr adeilad y tu hwnt i'r maes parcio yw Melin Marford. Gallwch weld yr olwynion dŵr yn glir o'r bont dros ffrwd y felin.
Cofnodwyd melin yn y cyffiniau hyn yn Llyfr Domesday yn 1086. Dinistriwyd y felin a oedd yn sefyll yma erbyn dechrau'r 15fed ganrif gan luoedd gwrthryfelwyr Owain Glyndŵr. Ailadeiladwyd y felin - a oedd yn eiddo i'r Goron - ac roedd yn rhaid i bob bilain yn yr ardal fynd â'i rawn yno i'w falu. (Roedd Bileiniaid, neu ddeiliaid caeth, yn gwasanaethu'r tirfeddiannwr lleol ac roedd ganddo lai o hawliau na thenantiaid rhydd.) Roedd hwn yn drefniant amhoblogaidd ac ym 1544 codwyd melin newydd i gystadlu yr ochr arall i'r ffordd. Roedd y ddwy felin yr adeg hynny yn nhrefgordd Marford. Mae'n debyg eu bod yn cael eu galw'n Felin Uchaf a Melin Isaf Marford. Dim ond pentrefan bach oedd Yr Orsedd ar y pryd. Daeth y felin uchaf i gael ei galw'n Felin yr Orsedd ar ôl i newid ffin ei symud o Marford.



