
Dadorchuddiwyd cerflun Daniel Owen, a dalwyd amdano trwy danysgrifiad cyhoeddus, ar Hydref 17eg 1901 yn Hall Fields, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug. 
Ym 1979 symudwyd cerflun Daniel Owen o Maes y Neuadd i Sgwâr Daniel Owen. 
Symudwyd y cerflun yn ôl ychydig fetr yn 2017 ac mae capsiwl amser wedi'i gladdu o dan y peth gyda deunydd yn dangos bywyd y dref. 
Cerflun Daniel Owen yn ei leoliad presennol. Mae'r sgrin yn cynnwys geiriau allweddol o'i nofelau enwog. 
Roedd cerflun Daniel Owen yn sefyll ar y plinth hwn, Sculpture Machina Gan Sebastian Boyesen
Dadorchuddiwyd cerflun Daniel Owen ar Hydref 17eg 1901 yn Maes y Neuadd, ger hen Neuadd y Sir. Yn 1898 nododd "The North Wales Pioneer' bod Mr Goscombe John, ARA wedi cwblhau ei fodel clai o'r gofeb, bod y cerflun yn un efydd, a'i fod yn mynd i gael ei godi naill ai ar Faes Hamdden Bryn y Beili neu ar y "Groes" ar waelod y dref. "
Ni chodwyd y cerflun ar Fryn y Beili nag ar y Groes yn y pen draw, ond ar dir o'r enw Maes y Neuadd, (lle mae'r orsaf fysiau a'r orsaf heddlu bellach) wrth ymyl Pencadlys Cyngor Sir y Fflint gynt, ac yn edrych dros y rheilffordd (sydd nawr yn faes parcio). Fe'i dadorchuddiwyd ddydd Mawrth, Hydref 17, 1901 gan yr Arglwydd Kenyon.
Ym 1979 symudwyd Cerflun Daniel Owen o Faes y Neuadd i Sgwâr Daniel Owen o flaen Llyfrgell yr Wyddgrug, ac yn 2017 symudwyd cerflun Daniel Owen unwaith eto, y tro hwn ychydig ond metr i'r ochr, ei sefyllfa bresennol.
Wrth symud cerflun Daniel Owen yn 1979 o'i leoliad gwreiddiol, dim ond rhan o'r plinth enfawr a symudwyd. Cafodd y rhan isaf ei ailddefnyddio o dan y cerflun Machina gan Sebastian Boyesen, ar ôl cwblhau'r Orsaf Fysiau newydd gerllaw Maes y Neuadd ar 7 Mehefin 1986.
Detholiad allan o erthyglau Mr Philip Lloyd yng nghylchgrawn Cymdeithas Ddinesig yr Wyddgrug "Ystrad Alun".