Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Y Fantell Aur

Mantell Aur Yr Wyddgrug yw un o'r enghreifftiau gorau o grefftwaith y cyfnod oes efydd yn Ewrop gyfan. Fe'i darganfuwyd yn Yr Wyddgrug ac mae'n o drysorau mwyaf casgliadau'r Amgueddfa Brydeinig. Gellir gweld copi ohoni yn Yr Wyddgrug yn yr amgueddfa uwchben y llyfrgell yn Sgwâr Daniel Owen.

Yn 1833 roedd dynion yn gweithio ar bwll graean ar gyrion y dref pan ddarganfu carnedd cerrig, sgerbwd dynol, gleiniau ambr, a gwrthrych aur hyfryd a ddisgrifiwyd, yn ddiweddarach, fel clogyn neu addurn i'w gwisgo o gwmpas yr ysgwyddau, yn ôl pob tebyg dros glogyn. Darganfu archeolegwyr ddarnau o grochenwaith ac esgyrn yn 2013, a gobeithio bydd y rhain yn rhoi rhagor o wybodaeth am y person a oedd yn gwisgo'r clogyn aur yma.