
Siambr y Cyngor lle cynhelir holl gyfarfodydd cyngor tref yr Wyddgrug. Roedd llyfrgell y dref wedi'i lleoli yn yr adeilad hwn pan agorwyd gyntaf ym 1912. 
Siambr cyngor Neuadd y Dref lle cofnodir holl enwau'r cadeiryddion blaenorol. 
Etholwyd y nofelydd, y teiliwr a'r gwleidydd lleol Daniel Owen yn gadeirydd cyntaf Cyngor Dosbarth Trefol yr Wyddgrug yn 1895. Gwelwch fwy amdano yn adran "Pobl" y llwybr hwn.
Neuadd y Dref
Agorodd Neuadd y Dref yr Wyddgrug ym 1912. Anrheg i'r dref gan Peter Roberts o Bromfied Hall oedd y Neuadd, dyn lleol a oedd wedi dechrau ei yrfa fel prentis siop brethyn yn yr Wyddgrug. Yn ddiweddarach sefydlodd fusnes siopau brethyn llwyddiannus iawn yn Burnley a gwnaeth ei ffortiwn trwy wneud a gwerthu sodlau rwber newydd ar gyfer trwsio esgidiau ledled y byd. Daeth yn ôl i'r Wyddgrug yn ddiweddarach yn ei fywyd a bu'n gadeirydd y Cyngor Dosbarth Trefol yn y flwyddyn coroni George V ym 1911. Mae hanesydd pensaernïol wedi disgrifio'r adeilad fel "Baróc Edwardaidd, balch a hyderus".