Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Stryd Fawr

Yn y ffotograff gellir gweld dau dŷ trefol cynnar o'r ddeunawfed ganrif gyferbyn a'i gilydd ar y stryd. Roedd gan eu perchnogion, boneddigion lleol, dai mawr yng nghefn gwlad gyfagos. Bu Daniel Owen, nofelydd mwyaf enwog yr Wyddgrug, yn teilwra yn yr 1860au a'r 70au mewn ystafell uwchlaw' beth sydd bellach yng Nghosta Coffee. Roedd Mr a Mrs Hughes yn rhedeg y siop fferyllfa ac yn ffrindiau â Daniel Owen, arbedodd Rhys, eu mab, lawer o wrthrychau sy'n gysylltiedig â Daniel Owen a gellid gweld y rhain yn amgueddfa'r dref.