Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Neuadd y Dref

Hen farchnad Yr Wyddgrug

Banc Lloyds oedd hen neuadd farchnad y dref. Fe'i hadeiladwyd yn yr 1840au ar safle llys hynafol. Roedd y farchnad i lawr y grisiau a chynhaliwyd cyfarfodydd swyddogol ar y llawr uwch. Roedd ystafelloedd y cyngor yn cael eu defnyddio ar gyfer cyngherddau, dramâu a sinema yn ystod cyfnod y ffilmiau tawel. Yn y 1960au, cynhaliodd y Beatles berfformiad yma cyn iddynt ddod yn enwog.