Llwybrau Gogledd Ddwyrain Cymru

Y Llew Du

Yr hen Llew Du

Roedd y Llew Du yn hen dafarn a gwesty gorau'r Wyddgrug yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Caewyd y drysau ar ddiwedd 1970au ac mae bellach yn rhan o'r siop B&M. Gellid gweld y llew a oedd unwaith yn sefyll uwchben y portico yn y llun. Chwaraeodd llythyr ffug a ysgrifennwyd ar bapur swyddogol Y Llew Du ran fechan mewn cynllun cyfrinachol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, 'Operation Mincemeat', gan fwydo gwybodaeth ffug i'r Almaenwyr am leoliad ymosodiadau a gynlluniwyd yn ne Ewrop.